DOD AT EIN GILYDD I SICRHAU CYFIAWNDER

Diben y System Cyfiawnder Troseddol yw sicrhau cyfiawnder i bawb trwy gollfarnu a chosbi’r euog a’u helpu i roi’r gorau i droseddu, a ddiogelu’r diniwed. Mae’n gyfrifol am ddatrys troseddau a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell; ac am gyflawni gorchmynion y llys, megis casglu dirwyon a goruchwylio cosbau carcharol a chymunedol.

Ceir 42 o Fyrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol (BCTLlau) yng Nghymru a Lloegr – mae eu nodau cyffredinol fel a ganlyn:

  • Gwella’r broses o sicrhau cyfiawnder trwy gynyddu nifer y troseddau y bydd troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell am eu cyflawni, i 1.25 miliw

    A
  • Thawelu meddyliau’r cyhoedd, lleihau’r ofn o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ennyn hyder yn y System Cyfiawnder Troseddol heb amharu ar degwch.

Ein gweledigaeth yw diwygio a gwella’r broses o sicrhau cyfiawnder troseddol yn ardal Dyfed Powys trwy greu gwasanaeth:

  • Sy’n sicrhau bod dioddefwyr a thystion yn cael gwasanaeth o safon uchel yn gyson gan yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol
  • Lle y bydd rhagor o droseddau yn cael eu dwyn o flaen eu gwell trwy gyfrwng system cyfiawnder mwy effeithlon
    Lle y bydd gorfodi trylwyr yn chwyldroi cydymffurfio gyda dedfrydau a gorchmynion y llys
  • Lle y mae cydweithio a gwasanaethau cwsmeriaid yn reddf, wedi’i seilio ar ddata perfformio a chyfleusterau TG modern, ac arweinyddiaeth o’r radd flaenaf
  • Lle y mae gan y cyhoedd hyder bod y System Cyfiawnder Troseddol yn effeithiol ac yn gwasanaethu pob cymuned mewn ffordd deg
  • Lle y bydd y System Cyfiawnder Troseddol lleol yn wasanaeth cydgysylltiedig a modern, sy’n cael ei redeg yn dda, ac sy’n cynnig lle gwych i bobl o bob cefndir weithio.

Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed Powys yn cynnwys Prif Swyddogion yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, y Llysoedd, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Carchardai a rheolwyr o’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

DirectGov